Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (265)v4 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys 1
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yng ngogledd Cymru, yn sgil adroddiad a nododd bryderon ynghylch pa mor ddiogel ydyw?
|
Cwestiwn Brys 2 Eluned Parrott (South Wales Central): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adnewyddu rhaglen Twf Swydd Cymru, yn sgil y cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i’w hariannu?
|
3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (60 munud) NDM5756 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2015.
Dogfennau Ategol
|
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5755 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod manteision digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n weithredol i wneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gwneir y gorau o fanteision i iechyd y cyhoedd, twristiaeth a'r economi yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 2, ar ôl 'Gemau'r Gymanwlad' mewnosod 'a'r Tour de France'.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod cyfleusterau sefyll diogel mewn stadia yn creu awyrgylch gwell mewn digwyddiadau mawr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon i baratoi canllawiau y gellir cyflwyno ardaloedd sefyll diogel oddi tanynt. |
5 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5759 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd pennaf Cymru;
2. Yn nodi pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar yr un sail â'r Alban fesul pen o'r boblogaeth, byddai'n cael £1.2 biliwn ychwanegol bob blwyddyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos o blaid cyllido Cymru ar yr un sail â'r Alban.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod canfyddiadau Comisiwn Holtham fod fformiwla Barnett yn tanwario ar Gymru o ryw £300 miliwn y flwyddyn;
2. Yn credu y dylai Cymru gael ei hariannu'n deg;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:
a) comisiynu diweddariad o ddadansoddiad Comisiwn Holtham;
b) sefydlu llawr Barnett ar unwaith; ac
c) cynyddu'r grant bloc i lefel teg i sicrhau cyllid teg i Gymru.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 5 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2 a 3 ac yn eu lle rhoi:
2. Yn nodi bod astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei chyllido'n unol â'r angen.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 5 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad ar y cyd i asesu anghenion cyllido Cymru.
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu cytundeb Dydd Gŵyl Dewi a'r cynlluniau ar gyfer cyllid gwaelodol ar gyfer Cymru.
Gwelliant 5 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 3, dileu ' yr un sail â'r Alban' a rhoi yn ei le 'sail angen, nid y boblogaeth'. |
6 Cyfnod pleidleisio |
7 Dadl Fer (30 munud) NDM5758 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Addysg heblaw yn yr ysgol |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Mai 2015